Gallwch weld pwy sy'n byw ble. Mae gan yr Audience Agency amrywiaeth o offerynnau ac adnoddau rhad ac am ddim sy'n ystyried cyfansoddiad demograffig Cymru o safbwynt yr Audience Spectrum – offeryn sy'n segmentu poblogaeth gyfan y DU yn ôl agweddau pobl tuag at ddiwylliant, ac yn ôl yr hyn y maent yn hoff o'i weld a'i wneud. 

 

Gwaith mapio'r Audience Spectrum fesul rhanbarth neu ddinas yng Nghymru 

Cyfres o fapiau rhad ac am ddim y gellir eu lawrlwytho sy'n canolbwyntio ar yr ardaloedd canlynol:

Caerdydd, Casnewydd, Gogledd Cymru, Canol De Cymru, De-ddwyrain Cymru, De-orllewin Cymru ac Abertawe. 

Mae'r mapiau rhanbarthol hyn yn nodi segmentau allweddol yr Audience Spectrum ar gyfer pob rhanbarth ledled Cymru, ac maent wedi'u cyflwyno o ddau safbwynt gwahanol, fel a ganlyn: 

 

Gwaith mapio'r Audience Spectrum fesul sector post 

Defnyddiwch yr offeryn mapio rhyngweithiol rhad ac am ddim yn eich dangosfwrdd Audience Finder i archwilio dosbarthiad pob segment o'r Audience Spectrum ar lefel sector post. 

Cam 1 – Ymgofrestrwch am ddangosfwrdd Audience Finder neu mewngofnodwch i'ch cyfrif yn audiencefinder.org 

Cam 2 – Dewiswch ‘Mapio’ o'r ddewislen ar y chwith 

Cam 3 – Ym mhennyn y dudalen, dewiswch yr ardal (e.e. Caerdydd) a'r segment (e.e. Ceiswyr Profiad) yr hoffech eu harchwilio, a gwasgwch Chwilio i weld eich map. 

 

Heb ymgofrestru ag Audience Finder eto? Ceir mwy o wybodaeth yma