Yn 2019, penodwyd The Audience Agency gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gyflwyno'r rhaglen Mewnwelediad Cynulleidfa Cymru newydd. 

 

MaeAudience Finder, a'i chwaer-offeryn Show Stats yn darparu pecyn o fewnwelediadau a dadansoddiadau i gefnogi'ch gwaith o gynllunio, datblygu cynulleidfaoedd ac eirioli, yn seiliedig ar y set ddata ddiwylliannol fwyaf o'i math. Dadansoddwch a meincnodwch eich data tocynnau ac arolwg eich hun yn erbyn eich poblogaeth leol a gweld sut mae'ch cynulleidfaoedd yn cymharu â sefydliadau eraill yn eich sector. 

 

‘Ni fydd y gwasanaeth newydd hwn o fudd i’n sefydliadau portffolio yn unig ond hefyd i’r sector celfyddydau ehangach yng Nghymru.’ – Chris Batsford, Cyngor Celfyddydau Cymru 

 

Er nad oes unrhyw ofynion adrodd ar gyfer Audience Finder ar hyn o bryd o safbwynt gofynion Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n annog pob sefydliad yn y sector, yn benodol, i fanteisio ar raglen Mewnwelediad Cynulleidfa Cymru drwy ymgofrestru nawr, ni waeth beth yw ei statws o safbwynt cyllid. 

 

Sut y gallaf ymgofrestru â rhaglen Mewnwelediad Cynulleidfa Cymru? 

Am fwy o wybodaeth am raglen Mewnwelediad Cynulleidfa Cymru, a sut y gallwch ymgofrestru, ewch i audiencefinder.wales neu gofynnwch am drefnu sesiwn gynefino un wrth un am ddim gydag aelod o dîm The Audience Agency.