Ydy. Maent yn dempledi arolwg gwahanol.

 

Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r cwestiynau a geir yn yr arolwg Audience Finder safonol i Gymru yr un peth â'r rheiny a geir yn yr arolwg Audience Finder safonol ar gyfer yr Alban a Lloegr. Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir meincnodi ymatebion ar gyfer sefydliad o Gymru yn erbyn data arolwg ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, nid Cymru gyfan yn unig. 

Ceir y gwahaniaethau canlynol yn yr arolwg i Gymru: 

 

Cwestiwn craidd am y Gymraeg 

Rydym wedi ychwanegu cwestiwn ychwanegol er mwyn casglu data am gynulleidfaoedd o safbwynt y Gymraeg. Gweler C. 9 yn yr arolwg Audience Finder safonol i Gymru. 

 

Cwestiwn craidd am deithio i'r digwyddiad/arddangosfa 

Rydym wedi ychwanegu cwestiwn er mwyn casglu data am y dulliau o deithio a ddefnyddir gan aelodau cynulleidfaoedd i gyrraedd y digwyddiadau a fynychir ganddynt. Gweler C. 3 yn yr arolwg Audience Finder safonol i Gymru. Mae'r cwestiwn hwn yr un peth â'r cwestiwn premiwm sydd ar gael i ddefnyddwyr yr arolygon Audience Finder ar draws gweddill y Deyrnas Unedig.

 

Opsiynau arolwg dwyieithog 

Yn ogystal, caiff cyfieithiad Cymraeg o'ch arolwg cynulleidfa ei ddarparu yn rhad ac am ddim ar gais. 

 

Gallwch weld yr arolwg Audience Finder safonol i Gymru yma