Gallwch. Mae ein hofferyn mewnwelediad Audience Finder 2.0 BETA o'r genhedlaeth nesaf ar gael yn ddwyieithog. Defnyddiwch y togl iaith ar frig y sgrin er mwyn newid rhwng mewnwelediadau yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Ceir mwy o wybodaeth am Audience Finder 2.0 BETA yma

 

Mae ein hofferyn Audience Finder 2.0 BETA newydd yn cael ei brofi drwy ddull agored, sy'n golygu ei fod yn cael ei ddatblygu'n barhaus er mwyn diwallu anghenion byth-newidiol y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw ledled Cymru, a'r DU yn ehangach. Gan hynny, rydym yn cynnal profion rheolaidd ar ein nodweddion a metrigau newydd o fewn y system. Ein nod yw sicrhau y caiff pob cynnwys newydd ei gyfieithu cyn gynted â phosibl, ac nid ydym byth yn syrthio islaw ein targed cyfieithu o 90% ar gyfer y wefan, gan gynnwys gwaith ar droed. 

 

Cysylltwch â ni os gwelwch fod unrhyw gyfieithiadau ar goll, neu os hoffech rannu adborth am gyfieithiadau a geir eisoes yn y gwasanaeth.