Yng Nghynllun Corfforaethol 2018 – 2023 Cyngor Celfyddydau Cymru, amlinellwyd cynlluniau i gefnogi sector Cymru wrth ddatblygu'i gynnig ‘er budd pawb’.
‘Erys y ffaith gignoeth fod gormod o bobl yn cael eu heithrio i bob pwrpas rhag y cyfle i fwynhau’r celfyddydau, cymryd rhan ynddynt neu weithio yn y maes.Mewn cymdeithas deg, ffyniannus, iach, fyddai hyn ddim yn gwneud y tro o gwbl.Os ydym ni’n credu fod profiadau dyrchafol y celfyddydau, profiadau mynegiant dychmygus, yn hanfodol i gymdeithas iach a dynamig, yna dylent fod ar gael i bawb.’ – Nick Capaldi[LH1] , Cyngor Celfyddydau Cymru, Cynllun Corfforaethol 2018 – 2023
Mae Audience Finder yn fan cychwyn defnyddiol i sefydliadau sy'n ceisio monitro cyrhaeddiad eu gwaith ar draws poblogaeth Cymru a nodi bylchau yn eu cynulleidfaoedd presennol. Cyrchu'r data hanfodol hwn yw'r cam cyntaf tuag at nodi a gwaredu'r rhwystrau sy'n atal rhai rhannau o'r boblogaeth rhag profi eich gwaith.
Rydym wedi creu canllaw byr i'ch helpu i ddefnyddio data, offerynnau a gwasanaeth Audience Finder at y diben hwn.
Beth yw fy nghyrhaeddiad i ardaloedd o amddifadedd yng Nghymru?
Os ydych yn cyfrannu data tocynnau at Audience Finder, gallwch fewngofnodi i'ch dangosfwrdd Audience Finder 2.0 Beta a chael mynediad at ddadansoddiad o'ch archebwyr yn ôl ardaloedd amddifadedd lluosog yng Nghymru.
[LH1]We have noticed that Phil George’s name is used on the website, however we have kept Nick Capaldi, in line with the original document.
Os yw canrannau eich archebwyr ym mhob band yn debyg i broffil eich dalgylch, mae'n dangos bod eich cynulleidfa'n cael ei denu'n gyfrannol o bob rhan o'ch cymuned leol. Fodd bynnag, os ydych chi'n gweld gwahaniaeth yn y niferoedd, yn dibynnu ar nodau eich sefydliad, efallai ei bod hi'n bryd ailedrych ar eich strategaeth ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant economaidd-gymdeithasol.
A wyf yn ymgysylltu â chynulleidfa sy'n cynrychioli amrywiaeth y boblogaeth yn fy rhanbarth/cenedl?
Os ydych yn cyfrannu data arolwg at Audience Finder, gallwch fewngofnodi i'ch dangosfwrdd Audience Finder a chymharu oedran, rhyw, ethnigrwydd ac anabledd eich cynulleidfa bresennol â data poblogaeth ar gyfer eich rhanbarth, neu ar gyfer Cymru gyfan.
Yn ogystal, gallwch edrych yn benodol ar eich cynulleidfaoedd yn ôl ffurf ar gelf, gan eich galluogi i nodi pa rannau o'ch rhaglen bresennol sy'n cynrychioli'ch poblogaeth orau a pha rhai sy'n peidio.
Sut allaf waredu rhwystrau anweladwy yn fy rhaglen, gofodau a dull marchnata er mwyn cyrraedd grwpiau nad wyf yn ymgysylltu â nhw ar hyn o bryd?
Os ydych yn cyfrannu data tocynnau neu ddata arolwg at Audience Finder, gallwch gael mynediad at ddadansoddiad Audience Spectrum o'ch cynulleidfa bresennol o fewn eich dangosfwrdd.
Arddangosir y canfyddiadau hyn ochr yn ochr â meincnod o'ch dewis, gan ddarparu cyd-destun ar gyfer data'ch sefydliad.
- Data cyfrifiad cenedlaethol (data poblogaeth Cymru)
- Data cenedlaethol Audience Finder (data mynychwyr y celfyddydau o Gymru)
Wedi nodi pa broffiliau Audience Spectrum sy'n cael eu tangynrychioli yn eich cynulleidfaoedd, gallwch edrych ar bob un yn fanylach trwy ddewis yr opsiwn ‘Segment’ o dan tab ‘National Data’ eich dangosfwrdd. O hyn, dylech allu canfod nodweddion y grwpiau sydd ar goll o'ch cynulleidfaoedd.
O'r fan hon, ewch i'r adran ‘How to Engage’ ym mhob portread pen Audience Spectrum, trwy glicio ar ‘More Info’ o dan deitl y segment.
Fan hyn, byddwch yn dod o hyd i ddigon o awgrymiadau defnyddiol ar addasu popeth o'ch rhaglen a phartneriaid corfforaethol, i dactegau marchnata a phrisiau, i ymgysylltu â'r grŵp hwn yn well.
A chofiwch, os ydych yn cynllunio ymgyrch bostio uniongyrchol, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol neu hysbysebu ar y strydoedd, gallwch ddefnyddio offeryn mapio Audience Finder er mwyn dod o hyd i godau post yn eich ardal sydd â niferoedd uchel o'ch segment targed.