Mae Mewnwelediad Cynulleidfa Cymru yn rhaglen mewnwelediad rhad ac am ddim sydd ar gael i bob sefydliad ym maes y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru.
Mae'r rhaglen wedi'i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae The Audience Agency wedi bod yn ei chynnal ers mis Mawrth 2019.
Sut fydd fy sefydliad yn elwa ar gymryd rhan yn y rhaglen Mewnwelediad Cynulleidfa Cymru?
Mae'r pecyn cymorth rhad ac am ddim sydd wedi'i gynnwys yn y rhaglen yn canolbwyntio'n benodol ar helpu sefydliadau i gael mynediad i ddata am eu cynulleidfaoedd eu hunain, a chynulleidfaoedd diwylliannol yn fwy cyffredinol, er mwyn cefnogi gwaith rhaglennu, marchnata, cynllunio adnoddau, ac eirioli trwy ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Drwy gymryd rhan, bydd eich sefydliad yn cael mynediad i offerynnau mewnwelediad cynulleidfa ar-lein rhad ac am ddim, gwasanaethau adrodd, cymorth a hyfforddi gan dîm The Audience Agency, sefydlu'r arolwg safonedig am ddim ar gyfer eich sefydliad, cyfres o sesiynau fforwm cymunedol ar-lein er mwyn i chi allu cysylltu â'ch cymheiriaid a dysgu ochr yn ochr â nhw, a mynediad am ddim i Gynhadledd Mewnwelediad Cenedlaethol Cymru.
Sut mae'r rhaglen Mewnwelediad Cynulleidfa Cymru yn cael ei chyflwyno?
Cyflwynir y rhaglen yn bennaf drwy offerynnau ar-lein The Audience Agency, gan gynnwys Audience Finder, Audience Finder 2.0 BETA (y genhedlaeth nesaf o fewnwelediad cynulleidfa yng Nghymru), a Show Stats, a chaiff cymorth, sesiynau hyfforddi a digwyddiadau ychwanegol eu darparu gan dîm The Audience Agency.
Mae Audience Finder yn rhaglen ddata a datblygu sydd â'r nod o'i gwneud yn bosibl i sefydliadau diwylliannol gael mynediad i fewnwelediad cynulleidfa, ei gymharu a'i gymhwyso. Mae'n cyfuno data o bob aelwyd yn y DU â gwybodaeth am ymddygiad a phroffiliau cynulleidfaoedd er mwyn amlygu cyfleoedd i dyfu a newid. Mae'n rhan hanfodol o unrhyw becyn cymorth ar gyfer datblygu cynulleidfaoedd, ac mae'n darparu meincnodau ac adroddiadau defnyddiol.
Mae Show Stats yn offeryn mewnwelediad cynulleidfa a yrrir gan Audience Finder sy'n ei gwneud yn bosibl i gwmnïau a sefydliadau teithiol weld gwybodaeth am eu cynulleidfaoedd ar hyd rhaglen deithio gyfan, a fesul perfformiad. Drwy ddefnyddio Show Stats, gall sefydliadau teithiol greu darlun clir o'u cynulleidfaoedd er mwyn llunio cynlluniau marchnata integredig neu adeiladu achosion i gefnogi ceisiadau am gyllid a gwaith partneriaeth.
A fydd yn costio arian ac amser i mi gymryd rhan?
Mae rhaglen Mewnwelediad Cynulleidfa Cymru yn hollol rhad ac am ddim i sefydliadau sy'n cyfrannu data gymryd rhan ynddi, ac unwaith y byddwn yn derbyn cais, bydd tîm The Audience Agency yn gofalu am y broses sefydlu. Gofynnir i chi gwblhau rhywfaint o waith o ran categoreiddio cynnyrch os ydych yn cyfrannu data am docynnau. Unwaith y byddwch wedi'ch sefydlu, ni fydd gofynion ar eich amser nac ychwaith o safbwynt defnyddio'r offerynnau a gwasanaethau sy'n rhan o'r rhaglen – yn hytrach, maent yno i chi eu defnyddio yn ôl y gofyn.
(Yr un sy'n wir yma ag sy'n wir mewn sawl maes arall, sef po fwyaf yr amser a roddwch i archwilio mewnwelediadau eich sefydliad, y mwyaf y byddwch yn debygol o elwa ar wneud hynny.)
A yw fy sefydliad yn parhau i fod yn rhan o raglen Mewnwelediad Cynulleidfa Cymru os ymunodd cyn mis Mawrth 2019?
Os gweithiodd eich sefydliad gydag iteriadau blaenorol o'r rhaglen, cyn mis Mawrth 2019, byddwch wedi elwa ar adroddiadau blynyddol defnyddiol yn cynnig trosolwg o fewnwelediadau am eich cynulleidfaoedd.
Ers i The Audience Agency ddechrau cynnal y rhaglen ym mis Mawrth 2019, mae sefydliadau sydd newydd gofrestru wedi gallu defnyddio'n hofferynnau ar-lein rhad ac am ddim, gan gynnwys Audience Finder, Audience Finder 2.0 BETA, a Show Stats, nid yn unig i lunio adroddiadau trosolwg fel y rhai y gwnaethoch eu derbyn yn y gorffennol, ond hefyd i archwilio llu o fewnwelediadau wedi'u teilwra drwy fapiau rhyngweithiol, offerynnau hidlo a meincnodau. Yn ogystal, gallwch weld eich data o safbwynt ein system segmentu bwerus, sef yr Audience Spectrum.
Os nad ydych eisoes wedi ymgofrestru ag Audience Finder, bydd yn rhaid i chi wneud hynny er mwyn cael mynediad i'r rhaglen.
Sut y gallaf ymgofrestru â rhaglen Mewnwelediad Cynulleidfa Cymru?
Am fwy o wybodaeth am Fewnwelediad Cynulleidfa Cymru a sut y gallwch ymgofrestru, ewch i audiencefinder.wales neu gofynnwch am drefnu sesiwn gynefino un wrth un rhad ac am ddim gydag aelod o dîm The Audience Agency.